top of page

Y Parsel Coch - Linda Wolfsgruber, Gino Alberti [addas. Llio Elenid]

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*


(awgrym) oed diddordeb: 6-11

(awgrym) oed darllen: 7+

Lluniau: Gino Alberti

 
Llyfr hyfryd, annisgwyl sy’n gofyn am gael ei rannu adeg y Nadolig. Perl rhyngwladol sydd â neges syml am garedigrwydd.

Dwi isio sôn am y trysor bach yma, sy’n esiampl gwych o gydweithio rhyngwladol. Dyma addasiad Cymraeg Llio Elenid o stori wreiddiol Almaeneg Linda Wolfsgruber o 1988. Arluniwyd y llyfr gan Eidalwr, Gino Alberti ac fe argraffwyd y gyfrol yn Slofacia a’i gyhoeddi’n wreiddiol gan wasg o Swistir. Mae gwreiddiau Ewropeaidd y llyfr yn amlwg felly.


Gyda’i glawr caled, o liain (linen), mae’n edrych, ac yn teimlo, yn wahanol i nifer o’r llyfrau ar y farchnad, ac mae’n braf iawn cael y cyfle i ddarllen addasiad o wlad arall heblaw Lloegr am unwaith. Mi faswn i’n hoffi gweld mwy a dweud y gwir.


Mewn oes lle mae popeth yn llachar, yn brysur ac yn swnllyd, neis yw cael eistedd a mwynhau stori mwy traddodiadol, tawel. Mae ‘na rywbeth bonheddig am y llyfr, sy’n llawn lluniau mewn steil clasurol, hen ffasiwn (mewn ffordd dda).


Am eich £7.95, fe ddaw y llyfr hefo wrap-around, sy’n caniatáu i chi dorri anrheg eich hun allan, er mwyn dod a neges y stori’n fyw, ond dwi’n meddwl fasa hi’n anodd iawn i mi roi siswrn at hwn! (photocopy amdani ‘llu!)


“Chei di ddim agor y parsel coch, ond mi gei di ei roi i rywun arall,”

Ar y wyneb, stori dyner yw hon am ferch fach sy’n mynd i aros at ei Nain dros yr Wŷl, gan ddod a llawenydd mawr i’r hen wraig. Ond mae ‘na fwy iddi na hyn. Mewn cymdeithas lle mae pawb yn brysur yn mynd o gwmpas eu pethau, yn aml heb amser i siarad a’u gilydd, mae nain yn penderfynu gwneud gwahaniaeth mawr gyda gweithred fach. Rhoi anrheg.



Mae Anna wedi drysu wrth i nain roi pecyn bach coch di-nod yn anrheg i’r dyn torri coed. Yr unig amod – ni chaiff unrhyw un agor y parsel bach coch. Beth yw cyfrinach y blwch bach? Ai aur yw e? Neu gemau drudfawr? Na. Does dim byd tu fewn ond hapusrwydd a lwc dda.


“Na, Anna. Mae un yn ddigon.”

Er syndod i’r ferch, mae Nain yn ffyddiog mai dim ond rhoi un anrheg oedd ei angen, er mwyn cynnau’r fflam o garedigrwydd sy’n prysur ledaenu ar draws y pentref.


Ac er mai stori syml iawn sydd yma, mae’r neges yn un bwysig. Yn enwedig mewn byd modern lle mae gwir ystyr y Nadolig yn mynd ar goll yng nghanol prysurdeb yr wyl. Nid y gwledda, y partïon, y gwario a'r presantau sy’n bwysig go iawn, ac mae’n hawdd iawn anghofio hynny yn y byd sydd ohoni.



I mi, mae’r llyfr yn dathliad o ‘gymuned’ – lle mae pawb yn sylwi ac yn gofalu am ei gilydd. Dros y Nadolig, cymerwch funud i stopio a siarad, i roi help llaw, neu dymuno’n dda i rhywun. Cymydog efallai, neu aelod o’r teulu ‘da chi heb weld ers dalwm.


Er fod modd gwneud, dwi ddim yn meddwl y baswn i’n darllen y stori gyda plant llai na 5 oed, achos dwi’n meddwl bod peryg i’r neges fynd dros eu pennau a’u diflasu. Ond i blant rhwng 6-9, dwi’n meddwl fod y stori’n berffaith i’w rannu o flaen y tân ar noswyl Nadolig. Yn sicr byddwn i’n defnyddio hwn mewn gwasanaeth ysgol.


Y neges i drafod gyda phlant yw fod beth sydd tu fewn y parsel yn amherthnasol mewn gwirionedd, ac mai’r weithred o garedigrwydd wrth roi’r parsel yn anrheg sy’n bwysig.



 

Gwasg: Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: Medi 2021

Pris: £7.95

Fformat: Clawr Caled

 

30 views0 comments
bottom of page