top of page

Chwedlau Cymru a'i straeon hud a lledrith - Claire Fayers [addas. Siân Lewis]

♥ Llyfr y Mis i Blant: Mai 2022 ♥



(awgrym) oed darllen:

(awgrym) oed diddordeb:



 

Disgrifiad Gwales:

Mwynhewch dreftadaeth gyfoethog Cymru o chwedlau a straeon tylwyth teg, wedi'u hail-adrodd ar gyfer darllenwyr ifanc. O ddreigiau hudolus Cymru sy'n dinistrio castell nos ar ôl nos, i dywysoges wedi'i gwneud allan o flodau a thrafferthion plentyn cyfnewid; o ffyddlondeb y ci hela Gelert, i fachgen sy'n holi cwestiynau ac yn tyfu i fod y bardd Cymreig mwyaf adnabyddus erioed..

 

Adolygiad Gwales gan Sioned Lleinau

translation available 26/4/24




Mae pawb yn gyfarwydd â’r syniad o Gymru fel gwlad y gân, ond dyma gyfrol hyfryd a hylaw sy’n dangos hefyd, fel y dywed yr awdur ei hun, mai Cymru yw gwlad y chwedlau a bod rheini i’w gweld a’u teimlo o’n cwmpas ym mhob man.


Er bod diwyg ac edrychiad nofel i Chwedlau Cymru a’i Straeon Hud a Lledrith, addasiad y ddewines geiriau, Siân Lewis, o waith Claire Fayers sydd yma. Mae'r gyfrol yn gasgliad cynhwysfawr o bedair chwedl ar bymtheg o straeon o bob cwr o chornel o Gymru a’r Byd Arall. O’r cyfarwydd, megis chwedlau Blodeuwedd, Pwyll a Rhiannon a Gelert i’r mwy anghyfarwydd, yn cynnwys straeon 'Y Bachgen a Ofynnai Gwestiynau', 'Pwca yn y Pwll Copr' a 'Fy Mrawd, y Tylwythyn Teg', mae yna wir gyfoeth o fewn cloriau’r gyfrol hon.


Cawn ein hatgoffa o helyntion Gwrtheyrn a pham mai draig sydd ar faner Cymru, hanes Cantre’r Gwaelod, ymweliad y diafol ag ardal Pontarfynach a’n cyflwyno i’r dewin Myrddin a’r bardd enwog Taliesin, heb sôn am anturiaethau’r o fyd y Mabinogi a’r tylwyth teg drygionus a digon creulon ar adegau. Oes, mae yna rywbeth i bawb.



Ond yr hyn sy’n dod â hud a lledrith ychwanegol i’r gyfrol hon yw’r modd dychmygus y mae’r straeon yn cael eu hadrodd. Mae’r dawn dweud a’r diniweidrwydd yn amlwg. Dyna i chi’r cyfeiriad at Morgan Methu-canu yn y stori 'Telyn y Tywyth Teg' oedd yn ysu am gyrraedd y brig mewn ym mhopeth, yn cynnwys canu, er mor anobeithiol yr oedd e am wneud hynny: ‘Fel y gwyddom ni, Cymru yw Gwlad y Gân. Mae’n enwog am ei miwsig ac mae Cymro sy’n methu canu fe morfil sy’n methu nofio.’ Mae’r ysgrifennu’n agos atoch iawn ac yn llifo’n rhwydd ac yn naturiol, gan eich tynnu i mewn i fyd bob stori a’ch gafael yn dynn. Cewch eich arwain i mewn i bob stori gan gyflwyniad bach i’r hyn sydd i ddilyn, gan ei gwneud hi’n hawdd i ddewis a dethol pa stori i’w darllen nesaf.


Cyfrol i blant yw hon, wrth gwrs, ond does dim amheuaeth y bydd bob un o’r straeon o fewn ei chloriau’n apelio at ddarllenwyr o bob oed ac yn cynnig ysgogiad pellach i ddychwelyd at rai o’r testunau gwreiddiol. Mae’n siŵr hefyd fod yna straeon hud a lledrith tebyg i’w cael yn eich ardal chi, a dyma un o’r cyfrolau hynny a allai fod yn allwedd i gynnau eich awydd i chwilio am rai o’r rheini unwaith eto. Heb os, dyma gyfrol sy’n werth bob ceiniog ac yn anodd iawn ei rhoi i lawr. Mynnwch eich copi chi nawr.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.




 

Adolygiad Sôn am Lyfra


Dwi wrth fy modd gyda'r gyfrol yma. Roedd ambell un o'r straeon yn gyfarwydd, ond roedd eraill yn gwbl newydd i mi. Dwi'n edrych ymlaen i rannu'r drysorfa yma o straeon gyda plant Cymru yn y dyfodol. Mi fydd copi yn fy mag ar gyfer gwaith llanw. Mae'r straeon byrion yn berffaith ar gyfer amser pen i lawr a stori ar ddiwedd y dydd! Mae'r cyflwyniad byr o flaen pob stori yn hynod o ddifyr - pwy fasa'n meddwl fod yr awdur (wel, gŵr yr awdur) wedi dod o hyd iddi ar wal gwesty!


 

Cyhoeddwr: Rily

Cyhoeddwyd: Ebrill 2022

Pris: £5.99

 

0 views0 comments
bottom of page